Exodus 37

Gwneud yr Arch

(Exodus 25:10-22)

1Yna dyma Betsalel yn gwneud yr Arch allan o goed acasia. Roedd hi'n 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder. 2Gorchuddiodd hi gyda haen o aur pur (y tu mewn a'r tu allan), a gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno. 3Yna gwneud pedwar cylch aur, a'u gosod nhw ar draed y gist, dwy bob ochr. 4Yna gwneud polion o goed acasia wedi eu gorchuddio gydag aur, 5a rhoi'r polion drwy'r cylchoedd bob ochr i'r Arch, i'w defnyddio i'w chario hi.

6Wedyn dyma fe'n gwneud caead o aur pur i'r Arch – 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led. 7Yna gwneud dau geriwb o aur wedi ei guro (gwaith morthwyl) – un bob pen i'r caead, 8yn un darn gyda'r caead ei hun. 9Roedd adenydd y ceriwbiaid ar led yn cysgodi dros gaead yr Arch. Roedd y ceriwbiaid yn wynebu ei gilydd ac yn edrych i lawr ar y caead.

Bwrdd y bara sydd i'w gyflwyno i Dduw

10Wedyn dyma fe'n gwneud y bwrdd o goed acasia – 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder. 11Gorchuddiodd e gydag aur pur, a gosod border aur o'i gwmpas i'w addurno. 12Yna gwneud croeslath 75 milimetr o drwch o'i gwmpas – hwnnw hefyd wedi ei addurno yr un fath â'r border. 13Yna gwnaeth bedwar cylch aur, a'i gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau 14wrth ymyl y croeslath. Roedd y cylchoedd ar gyfer rhoi'r polion trwyddyn nhw i gario'r bwrdd. 15Yna gwnaeth y polion o goed acasia a'u gorchuddio nhw gydag aur. 16Yna gwnaeth y llestri oedd ar y bwrdd allan o aur pur – y platiau, pedyll, jygiau a powlenni, i dywallt yr offrymau o ddiod.

Gwneud y stand i ddal y lampau – y Menora

(Exodus 25:31-40)

17Yna dyma fe'n gwneud y menora (sef y stand i ddal y lampau) allan o aur pur – gwaith morthwyl, sef aur wedi ei guro. Mae'r cwbl i fod yn un darn – y droed, y goes, a'r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw. 18Roedd chwe cangen yn ymestyn allan o ochrau'r menora, tair bob ochr. 19Roedd tair cwpan siâp blodyn almon ar bob cangen – pob blodyn gyda calycs a petalau. 20Ac ar brif goes y menora, pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau. 21Un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd. 22Roedd y cwbl wedi ei wneud o un darn o aur pur wedi ei guro – gwaith morthwyl. 23Yna gwnaeth ei saith lamp, ei gefeiliau a'i phadellau o aur pur. 24Defnyddiodd 35 cilogram o aur pur i wneud y menora a'r offer oedd gyda hi i gyd.

Gwneud yr allor i losgi arogldarth

(Exodus 30:1-5)

25Yna dyma fe'n gwneud yr allor i losgi arogldarth. Gwnaeth hi o goed acasia, yn 45 centimetr sgwâr ac yn 90 centimetr o uchder. Roedd y cyrn arni yn un darn gyda'r allor ei hun. 26Yna gorchuddiodd hi i gyd gyda haen o aur pur – y top, yr ochrau a'r cyrn. A gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno. 27Roddodd ddau gylch aur ar y ddwy ochr iddi, gyferbyn â'i gilydd o dan y border, i roi'r polion trwyddyn nhw i gario'r allor. 28Yna gwnaeth y polion o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gydag aur.

Gwneud yr olew eneinio a'r arogldarth

(Exodus 30:22-38)

29Wedyn gwnaeth yr olew eneinio cysegredig a'r arogldarth persawrus, wedi ei wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr.

Copyright information for CYM